Mae Noddfa yn bodoli fel Canolfan Gymunedol ers 1976, yn cael ei rheoli o ddydd i ddydd gan Bwyllgor Gwaith, sydd yn gyfrifol am holl elfennau or adeilad, yn cynnwys llogi ystafelloedd, cynnal a chadw, a rhedeg y Ganolfan yn gyffredinol.
Dwy aelod o staff sydd yn gweithio yn uniongyrchol ir Pwyllgor sef Helen Davies sydd ar gael ddau fore yr wythnos, sef dydd Llun a Mercher i gymeryd unrhyw ymholiad am logi stafelloedd, a Mrs Leean Roberts sydd yn gwneud y gofalu yma I sicrhau bod y Ganolfan yn lan a chynnes ar gyfer y defnyddwyr.
Mae croeso i chi gysylltu os ydych am fwy o fanylion ynglyn a llogi stafell.
Bydd angen bwcio a talu ymlaen llaw fel yn y gorffennol.
Mae Pwyllgor y Ganolfan yn chwilio am aelodau newydd.
Mae'r pwyllgor yn cyfarfod unwaith pob dau fis.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Helen drwy helennoddfa@btconnect.com neu post@noddfa.cymru
Mae gan Gwaith Gwynedd, sef menter Cyngor Gwynedd i gefnogi pobl Gwynedd i gyrraedd eu llawn botensial, swyddfeydd yn Noddfa
Mae Cylch Meithrin Seiont a Pheblig wedi ei leoli yng Nghanolfan Noddfa
Mae Eglwys Gymunedol Noddfa wedi ei lleoli yng Nghanolfan Noddfa.
Mae gan Codi’r To, prosiect adfywio cymunedol drwy gerddoriaeth, swyddfeydd yn Noddfa hefyd.
Mae Ystafell 1 – 3 yn costio £40 am hanner diwrnod ac ystafell 4 yn costio £20 am hanner diwrnod.
Canolfan Noddfa, Cil Peblig, Caernarfon LL55 2RS
01286 674713 | post@noddfa.cymru