image

Amdanom

Mae Noddfa yn bodoli fel Canolfan Gymunedol ers 1976, yn cael ei rheoli o ddydd i ddydd gan Bwyllgor Gwaith, sydd yn gyfrifol am holl elfennau or adeilad, yn cynnwys llogi ystafelloedd, cynnal a chadw, a rhedeg y Ganolfan yn gyffredinol. Dwy aelod o staff sydd yn gweithio yn uniongyrchol ir Pwyllgor sef Helen Davies sydd ar gael ddau fore yr wythnos, sef dydd Llun a Mercher i gymeryd unrhyw ymholiad am logi stafelloedd, a Mrs Leean Roberts sydd yn gwneud y gofalu yma I sicrhau bod y Ganolfan yn lan a chynnes ar gyfer y defnyddwyr. Mae croeso i chi gysylltu os ydych am fwy o fanylion ynglyn a llogi stafell.

Deffib yn Noddfa!

Diolch i Kathy Ann Davies Ross a Gemma Williams am godi £4665 drwy gynnal gweithgareddau cymunedol.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Noddfa’n brwydro costau ynni cynyddol

Mae Noddfa wedi derbyn hwb sylweddol ers gosod paneli solar a systemau storio batris, diolch i arian o Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Gwynedd (SPF).

Daw’r buddsoddiad ar yr adeg perffaith ar ôl i’r ganolfan wynebu gaeaf heriol gyda biliau ynni uchel, oedd yn bygwth ei gallu i barhau i wasanaethu’r gymuned.

Bydd y system ynni solar newydd yn galluogi'r ganolfan i gynhyrchu ei thrydan ei hun a storio pŵer dros ben i'w ddefnyddio at eto. Y gobaith ydy y bydd y datblygiad yma yn lleihau biliau ynni’r ganolfan yn sylweddol, a sicrhau ei bod yn gallu aros ar agor.