Mae Eglwys Gymunedol Noddfa wedi ei lleoli yng Nghanolfan Noddfa ar stad Peblig, Caernarfon. Sefydlwyd yr Eglwys yn ôl yn 1956 pan ddechreuodd y gwaith cenhadol dan arweiniad y Chwaer Emily â’r Symudiad Ymosodol. Yn yr 1960au codwyd adeilad presenol Canolfan Noddfa yn dilyn codi arian yn lleol a chenedlaethol. Datblygodd Eglwys Noddfa i fod y Ganolfan Gymunedol prysur y mae heddiw.
Mae’r Eglwys yn parhau i fod yn rhan ganolog o Canolfan Noddfa. Cynhelir gwasanaethau a gweithgaredd i bob oed ar y Sul gan gyfarfod am 3 o’r gloch y prynhawn. Mae croeso cynnes i unrhyw un droi fewn i ymuno yn y gwasanaeth a chael sgwrs a phanad. Ryda ni’n andros o anffurfiol yn Eglwys Noddfa – dowch draw i weld!
Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn cyflogi Gweithwraig Gymunedol yn Noddfa sef Parch. Mererid Mair. Mae Mererid yn gweithio o swyddfa’r Eglwys yn y Ganolfan ac fel arfer yn y swyddfa ar Ddydd Llun, Mercher a Iau. Mae Mererid ar gael i gynnig cefnogaeth gyda materion sy’n ymwneud efo:
Gellir gwneud apwyntiad i weld Mererid drwy ffonio’r swyddfa ar: 01286 672257. Mae peiriant ateb cwbwl gyfrinachol sy’n cael ei wirio yn gyson gan Mererid yn unig, felly gadewch neges, os na chewch ateb.
Yn ogystal â’r gwaith cefnogi cymunedol, mae’r Eglwys yn cynnal gweithgareddau eraill megis:
Trwy holl weithgareddau Eglwys Noddfa yma yn yr ardal, gweddiwn fod pobl o bob oed yn cael y cyfle i ddod i adnabod ein Gwaredwr a theimlo ei wres a’i gariad yn eu bywydau.
I gysylltu efo Mererid yn Eglwys Noddfa:
Ffoniwch: 01286 672257
Ebostiwch: mereridnoddfasalem@hotmail.com
Rhowch wrogaeth i’r Arglwydd, yr holl ddaear.
Addolwch yr Arglwydd mewn llawenydd, dewch o’i flaen â chân.
“O! Tyrd i ddathlu ‘nawr
Oherwydd Duw sy’ fawr.
Mae o’n haeddu
Hip hip hwre!”