image

Ysgol Feithrin

Mae Cylch Meithrin Seiont a Pheblig wedi ei leoli yng Nghanolfan Noddfa ac yn agored i blant wedi iddynt gael eu hail ben-blwydd, hyd at eu pen-blwydd yn bedair oed. Mae lle i 26 o blant yn y ddwy sesiwn, bore a’r prynhawn.

Nod y Cylch Meithrin yw darparu gofal ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Darperir cyfleoedd i blant ddatblygu i’w llawn botensial tra yn y Cylch trwy gynnig cwricwlwm a strategaethau dysgu ac addysg y Cyfnod Sylfaen sef dysgu trwy chwarae. Bydd cyfle i bob plentyn o dan oedran Ysgol fanteisio ar brofiadau cyn-ysgol drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Mae hyn yn rhoi profiadau sy’n galluogi plant i fod yn greadigol, defnyddio’u dychymyg a chael hwyl wrth ddysgu. Croesawir pob plentyn i’r Cylch gwaeth be fo’i liw, hil, dosbarth cymdeithasol, sefyllfa deuluol neu anghenion addysgol. Yr ydym yn gobeithio y bydd eich plentyn yn hapus yn y Cylch ac yn elwa o’r ddarpariaeth.

Mae’r Cylch yn aelod gyda Mudiad Ysgolion Meithrin, ac yn rhan o Ddechrau’n Deg. Mae’r Cylch yn dilyn polisïau MM ac wedi cofrestru gyda AGGCC: AGGCC, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno, LL31 9RZ
Ffon - 03000625609

Llyfryn Ysgol Feithrin - cliciwch yma

Cylch Ti a Fi Noddfa Caernarfon - cliciwch yma

Manylion Cyswllt

Cylch Meithrin Seiont a Pheblig

Canolfan Noddfa
Cil Peblig
Caernarfon
LL55 2RS
Ffon: 07780112956

Arweinydd : Karen Evans
Is Arweinydd Wendy Jones

Rhif Elusen: 1195099
Rhif MM : 772

Karen Evans : Arweinydd Lefel 5
Wendy Jones: Is-Arweinydd lefel 3
3 staff efo Lefel 3
2 yn gweithio tuag at Lefel 3

 

Mae holl staff y Cylch wedi eu gwirio hefo GDG ac wedi cwblhau ffurflen ddatgelu gwybodaeth cyn y dyddiad cychwynnol. Mae’r staff i gyd wedi derbyn hyfforddiant priodol ar gyfer y gwaith ac yn parhau i dderbyn hyfforddiant yn y swydd. Mae staff y cylch yn meddu’r cymwysterau canlynol:

ELKLAN. Cwricwlwm i Gymru. Hylendid Bwyd. Cymorth Cyntaf. Amddiffyn Plant/. Tati Bumpkin. Traed Prysur. Cadw’n Heini. Dewin a Caleb. Cynllun Gwen. Jabadeo. Elisabeth Jarden. Camau Cerdd.
Mae graddfa oedolion i blant, yn ôl eu hoedran, yng nghyd fynd gyda safonau AGC.

Wrth ymuno a’r Cylch Meithrin mae’r rhieni / gwarchodwyr yn cael eu hysbysu o “Ffolder Polisïau” y Cylch. Mae hwn yn nodi polisïau a threfn y Cylch yn y mannau canlynol:

POLISI ANGHENION ARBENNIG
POLISI AMDDIFFYN PLANT
CANMOL A CHWYNO
CYFLE CYFARTAL
IAITH
IECHYD A DIOGELWCH
GADAEL A CHASGLU PLANT
CADW PLANT RHAG CRWYDRO
RHEOLI YMDDYGIAD
STAFFIO
CHWYTHU’R CHWIBAN
RHEOLI LLAU PEN
NEWID CLWT

Mae’r polisïau yma yn cael eu harwyddo ar ddechrau pob blwyddyn gan Gadeirydd y Pwyllgor / Person Cofrestredig i gadarnhau fod y Cylch yn mabwysiadu’r holl bolisïau. Wrth gofrestru caiff y rhieni weld copi o’r ffolder polisiau. Mae’r llyfr polisiau ar gael i’w darllen gan yr Arweinydd ar unrhyw adeg.

Amseroedd agor a chau
Dydd Llun i Ddydd Gwener
Sesiwn Bore 9.10 y.b tan 11.40 y.b
Sesiwn Prynhawn: 12.15 y.p tan 2.45 y.p.

Ffi pob sesiwn yw £9.50 y plentyn yr wythnos. Mae caffi ar gael pob dydd i’r plant sydd yn annog bwyta’n iach. Mae’r fwydlen yn newid yn ddyddiol ac mae’r Cylch yn dilyn y cynllun Cyn Ysgol Iach a Boliau Iach.

Yn ystod y dydd fe fydd y plant yn cael cyfle i wneud bob math o weithgareddau yn dilyn y Cwricwlwm newydd i Gymru.

Mae’r plant yn cael y cyfle i fod yn annibynnol a chael cyfle i weithio mewn grwpiau. Bydd holl waith y plant yn cael ei arddangos ar hysbysfyrddau’r Cylch, neu ar gael i fynd adref i’r cartref.

Mae'r Arweinydd yn cynllunio gweithgareddau yn dilyn diddordebau'r plentyn.

Mae’r Arweinydd yn cadw ffeil ar bob plentyn gan nodi ei bresenoldeb a’i ddatblygiad drwy’r flwyddyn. Ar ddiwedd blwyddyn cyflwynir adroddiad i’r rhieni ar ddatblygiad y plentyn trwy’r tymhorau i gyd. Mae croeso i’r rhiant / gwarchodwr drafod a’r staff unrhyw dro ddatblygiad ei blentyn yn y Cylch.

Barti Calan Gaeaf
Lluniau o Barti Calan Gaeaf gafodd plant y Cylch